Bydd ystyr arbennig i’r gair croeso wrth i Ganolfan Ragoriaeth Iaith Gymraeg arloesol agor ei drysau yn ‘Sgubor y Degwm yng nghanol tref Y Fenni. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wrth ei fodd yn cael y cyfle i weithio mewn partneriaeth gyda’r gymuned leol.

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Iaith Gymraeg yn adeiladu ar etifeddiaeth y stondin GIG hynod lwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 a gynhaliwyd ar Ddolydd y Castell. Bu Rhiannon Davies, Swyddog Iaith Gymraeg y Bwrdd Iechyd yn ganolog i sicrhau’r fenter hon, y cyntaf o’i bath i GIG Cymru. Dywedodd Rhiannon: “Dywedodd ymwelwyr â stondin y GIG yn yr Eisteddfod pa mor falch oedden nhw i weld y Bwrdd Iechyd yno a pha mor bwysig oedd iddyn nhw gael mynegi eu barn. Pwysleisiodd y rhai oedd wedi defnyddio ein gwasanaethau pa mor hanfodol yw iaith i sicrhau gofal iechyd diogel o safon uchel. Mae’n ffaith hysbys bod siaradwyr Cymraeg yn teimlo’n llawer mwy hyderus wrth fynegi eu hunain yn eu mamiaith felly mae cyfathrebu effeithlon yn allweddol i hyn. I nifer, nid yw’n fater o ddewis ond yn fater o angen.”

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Iaith Gymraeg yn cynnig amgylchedd cynnes a chroesawus fydd yn gwbl ddwyieithog. Bydd yn helpu ein staff i ddeall yn well anghenion siaradwyr Cymraeg ac yn cynnig hyfforddiant ar bob lefel. Bydd cyfle i’r gymuned gyfarfod â staff a thrafod unrhyw bryderon yn ymwneud â’r iaith Gymraeg a’u gofal iechyd. Bydd yn ganolfan lle gallwch glywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol fel rhan normal o fywyd bob dydd a bydd yn ganolfan i weithgareddau cyfrwng Cymraeg.

Ychwanegodd Rhiannon: “Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnal digwyddiadau ar gyfer siaradwyr Cymraeg er mwyn clywed yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Dro ar ôl tro, maen nhw’n dweud pa mor bwysig yw gallu siarad â rhywun wyneb yn wyneb yn eu mamiaith ac i glywed geiriau o gysur yn yr iaith wrth dderbyn gofal iechyd. Dangosodd y cyfrifiad diwethaf gynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn Sir Fynwy yn benodol ac mae’n amserol i’r Bwrdd Iechyd adolygu ei ymateb i hyn. Mae plant a phobl hyn Cymraeg eu hiaith yn fregus pan na fyddan nhw’n cael y cyfle i sgwrsio yn eu mamiaith. Mae hyn yn arbennig o wir i rywun sydd wedi cael strôc neu sy’n dioddef gan ddementia.”

Dywedodd y Canon Mark Soady: “Rydw i’n gyffrous iawn wrth gael y cyfle i weithio mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a grwpiau eraill sydd â diddordeb i greu’r etifeddiaeth hon ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni. Pan gymerodd yr Eglwys ail feddiant o ‘Sgubor y Degwm 10 mlynedd fwy neu lai yn ôl, gwnaethpwyd hynny gyda’r bwriad o greu canolfan dreftadaeth; mae ychwanegu Canolfan Iaith Gymraeg at hynny’n ddatblygiad naturiol a phriodol."

Ein heiddo ni yw’r iaith Gymraeg ac mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan i fwynhau’r hyn sydd ganddi i’w gynnig.

Os hoffech chi wybod mwy am y fenter newydd gyffrous hon neu os ydych chi’n awyddus i ddod a gweld yr hyn sy’n cael ei gynnig, gallwch gysylltu â ni ar [email protected]