Mae Cymru yn wlad o ymfudwyr a dylai ymfalchïo yn ei record yn croesawu ffoaduriaid, meddai’r Archesgob mewn anerchiad Dydd Gwyl Dewi.

Mae Dr Barry Morgan yn canmol awdurdodau lleol am letya ffoaduriaid yn yr argyfwng presennol, er eu bod yn wynebu toriadau yn eu cyllidebau, ac am gydnabod ein dynoliaeth gyffredin.

Bydd yr Archesgob yn siarad yng ngwasanaeth Dydd Gwyl Dewi yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng nghanol dinas Caerdydd gydag arweinwyr cynghorau o bob rhan o Gymru yn bresennol.

Dywedodd, "Mae awdurdodau lleol yng Nghymru a mannau eraill yn wynebu toriadau enfawr ond yr hyn dylech ymfalchïo ynddo yw bod llawer ohonoch wedi penderfynu neilltuo tai ar gyfer ffoaduriaid a’u plant er gwaethaf eich holl broblemau. Byddwch wedi gwneud hynny oherwydd y sylweddolwch ein bod i gyd yn perthyn i un ddynoliaeth gyffredin. Byddai wedi bod yn rhy rhwydd o lawer dweud fod gennych gynifer o broblemau eich hunain i ddelio gyda nhw fel na fedrech ymdopi gydag unrhyw ofynion o’r tu allan.

"Drwy wneud hynny, yn wybyddus ai peidio, rydych wedi sylweddoli fod pawb ohonom yn ymfudwyr o un math neu’i gilydd - dod yma o Ogledd Ewrop wnaeth y Celtiaid hyd yn oed, trigolion gwreiddiol yr ynys hon. Nid oes yr un ohonom yn ethnig unlliw. Ymfudwyr ydyn ni i gyd yn sylfaenol ac mae gan y wlad hon hanes balch o amsugno pobl o bob cenedl ar y ddaear a chynnig help i’r rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth o unrhyw fath. Rydym oll wedi manteisio ar haelioni eraill yn y wlad yma gan fod llawer o’n hynafiaid mewn angen dybryd o gysgod, diogelwch neu’n syml eisiau bywyd gwell. Nid ydych wedi anghofio hynny drwy gynnig lletygarwch a lloches i’r rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth. Ni all Cymru ddatrys yr argyfwng ffoaduriaid ar ei phen ei hun ond rydych wedi ceisio gwneud rhywbeth."

Mae gwneud rhywbeth i helpu, pa bynnag mor fach, yn bwysig meddai’r Archesgob gan ddyfynnu Dewi Sant, nawdd sant Cymru a ddywedodd "Gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i."

Roedd yr apêl honno i wneud y "pethau bach" yn cyfeirio at bleidleiswyr Cymru hefyd, meddai’r Archesgob ac mae’n annog pawb i fwrw eu pleidlais yn yr etholiadau ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai.

Dywedodd, "Bydd llawer ddim yn pleidleisio oherwydd y teimlant na fydd eu un bleidlais yn gwneud gwahaniaeth. Eto bu’n rhaid brwydro’n galed i ennill hawl pob ohonom i bleidleisio ac mae’n ein galluogi i gael llais yn sut y caiff ein cymdeithas ei threfnu. Mae pob pleidlais yn cyfri ac mae gennym gyfrifoldeb i’n gilydd i fwrw ein pleidlais."

Mae Dr Morgan hefyd yn cydnabod dymuniad cynghorwyr i gadw gafael ar eu hetifeddiaeth Gristnogol, er gwaethaf dadleuon diweddar am weddïo cyn cyfarfodydd cyngor.

Dywedodd, "Daethoch heddiw i Eglwys Sant Ioan, cadeiryddion a meiri bron bob awdurdod lleol yng Nghymru, yn union fel y daeth eich rhagflaenwyr i addoli’r Duw a addolai Dewi Sant yn y 6ed ganrif. Ac nid presenoldeb unwaith yn unig yw hyn, oherwydd mae gan bob maer yng Nghymru gaplan ac mae pob awdurdod lleol yn cynnal o leiaf un gwasanaeth dinesig mewn eglwys neu gapel bob blwyddyn ... Mae’r ffaith i chi ddod yma y bore yma yn golygu eich bod yn gofyn am ras Duw i’ch galluogi i gyflawni’r tasgau sydd o’ch blaen. Mae Cristnogion yn credu na all bodau dynol wneud pethau o’u nerth eu hunain. Rydym angen help a gras Duw i adeiladu cymdeithas well."

The Archbishop is speaking at the Lord Mayor’s National Civic St Davids Day service at St John the Baptist Church, Cardiff city centre. The service starts at 10.45am.