Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, Theatr Genedlaethol Cymru a Phartneriaeth Sinemaes yn falch o gyhoeddi amserlen y Pentref Drama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni, sydd yn cynnwys Caffi’r Theatrau, y Cwt Drama, Sinemaes a Theatr y Maes.

Bydd wythnos lawn o weithgareddau yn y Pentref Drama, sy’n cael ei noddi gan Theatr Genedlaethol Cymru gan gynnwys dramâu, theatr stryd, sgyrsiau, ffilmiau, cystadlaethau, darlithoedd, dangosiadau, gweithgareddau i blant ac i’r teulu.

Mae amserlen Theatr y Maes yn cynnwys hen ffefrynnau a sesiynau newydd cyffrous. Ymhlith y cynyrchiadau i blant bydd Dilyn Fi gan Gwmni’r Frân Wen a Sali Mali gan Arad Goch. Yna, yn sicr o ddiddanu plant o bob oed fydd Raslas Bach a Mawr, sef blas ar sioe newydd Bara Caws fydd yn teithio Cymru yn yr hydref yn dilyn anturiaethau Plwmsan y Twmffat Twp a Syr Wynff ap Concord y Bos!

Bydd Bara Caws hefyd yn llwyfannu drama awyr agored arbennig yn y Goedwig ar y Maes sef Ga’i Fod. Un o uchafbwyntiau amserlen yr wythnos mae’n siwr fydd y Theatr Unnos sy’n gynhyrchiad ar y cyd rhwng yr Eisteddfod a Chwmni’r Frân Wen. Bydd criw o actorion a thîm cynhyrchu yn treulio’r noson yn Theatr y Maes i greu darn o theatr i’w berfformio yno am 13.00 ddydd Gwener. Beth all fynd o’i le?

Bydd cyfle hefyd i ymuno gyda Ffion Dafis wrth iddi sgwrsio gyda’r awdur Dafydd James, sesiynau byrfyfyr Props ar y Pryd sydd yn sicr o roi gwên ar eich wyneb ynghyd â sesiwn arbennig yn talu teyrnged i un o gymeriadau’r ardal Yr Arglwyddes Llanofer.

Bydd y Cwt Drama yn dychwelyd am y drydedd flwyddyn yn olynol gydag amserlen amrywiol a chyffrous. Prif ddrama’r wythnos gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru fydd Rhith Gân gan Wyn Mason, sef llwyfaniad cyntaf gwaith buddugol y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015. Sara Lloyd fydd yn cyfarwyddo’r ddrama sydd yn seiliedig ar albwm The Gentle Good, Y Bardd Anfarwol. Bydd Gareth Bonello yn ymuno â thîm creadigol y ddrama fel Cyfarwyddwr Cerdd.

Bydd y ddrama i’w gweld yn y Cwt Drama o nos Lun tan nos Wener am 18.00, gyda phris tocyn yn £5 (heb gynnwys mynediad i’r Maes). Mae tocynnau’n mynd ar werth ar 1 Gorffennaf, a gellir eu prynu drwy wefan yr Eisteddfod.

Prif ddiddordeb y Cwt Drama yw ysgrifennu newydd, prosiectau mewn datblygiad, a chynyrchiadau amrwd, beiddgar a chyffrous. Ymysg arlwy’r wythnos fydd Anturiaethau Anhygoel Wallace a Bates gan Gwmni Theatr na n’Og; testunau newydd gan Sherman Cymru wrth iddynt gyflwyno prosiect Brig; dangosiad o waith Protest Fudur am y tro cyntaf ar Faes yr Eisteddfod; Dewch i Ganu gydag Opera Cenedlaethol Cymru; a chyflwyniad Taith Kalashnikov 2016 gan raddedigion Prifysgol De Cymru.

Mae Sinemaes yn ychwanegiad newydd cyffrous i’r Pentref Drama eleni, fydd yn cael ei gydlynu gan BAFTA Cymru; Film Hub Wales / Canolfan Ffilm Cymru; Chapter; Into Film; Ffilm Cymru Wales; BFI NET.WORK; Cymdeithas Darlledu Brydeinig Cymru; Sgrîn Cymru; ITV Cymru Wales; S4C; Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru; Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, TAC; Gorilla a Trosol.

Cynhelir 50 o ddigwyddiadau amrywiol, yn cynnwys sgrin-ddangosiadau, premiere neu ddau, sesiynau holi ac ateb, gweithdai, sgyrsiau, cyfle i gwrdd â gwneuthurwyr ffilm a theledu a chael cyngor am weithio yn y diwydiannau cyfryngau creadigol. Bydd cyfle hefyd i weld ffilmiau a chyfresi archif, gan gynnwys rhai sydd wedi ennill gwobrau BAFTA Cymru wrth i’r elusen ddathlu 25 mlynedd o’r Gwobrau.

Rhai o uchafbwyntiau’r wythnos fydd cyfle i glywed am ffilm newydd Y Llyfrgell a gweld rhagolwg o gyfres newydd Parch, mewn trafodaeth gyda Fflur Dafydd ac eraill; gweithdai animeiddio, actio ar gyfer y sgrin a chyfansoddi sgrin; dangosiad o’r ffilm Gwaed ar y Sêr gyda set byw H Hawkline; darlleniad sgript newydd ffilm am Tony ac Aloma a phremiere o ffilmiau arswyd byr newydd.

Mae’r rhaglen yn fyw ar-lein drwy bwyso ‘Rhaglen’ ar brif fwydlen y wefan a chwilio fesul lleoliad neu ddiwrnod. Neu gallwch fynd i www.eisteddfod.cymru/2016/lleoliadau.