Y lefelau presenoldeb uchaf erioed mewn ysgolion

Mae Huw Lewis, y Gweinidog Addysg, wedi croesawu ffigurau newydd sy’n dangos bod lefelau absenoldeb disgyblion ar eu hisaf erioed yn ein hysgolion. Mae adroddiad Llywodraeth Cymru, “Absenteeism by pupil characteristics, 2015” yn dangos mai dim ond 1.4% o ddisgyblion cynradd oedd yn absennol yn gyson yn 2014-2015, o gymharu ag 1.7% y flwyddyn flaenorol a 3.4% yn 2008/09. Mae absenoldeb cyson mewn ysgolion uwchradd wedi mwy na haneru ers 2008/09. Dywedodd y Gweinidog: “Erbyn hyn, mae lefelau absenoldeb cyson mewn ysgolion ar eu hisaf ers inni ddechrau casglu data arno. Fe allwn ni ddiolch i ymroddiad ac ymrwymiad disgyblion, rhieni, athrawon, awdurdodau lleol a chonsortia addysg am hyn. Mae’r rhain i gyd yn deall bod presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn hollbwysig os yw pobl ifanc yn mynd i gyflawni eu potensial.”

Y mis Ionawr prysuraf ar gofnod i adrannau brys

Mae ffigurau newydd yn dangos mai mis Ionawr eleni oedd yr un prysuraf ar gofnod i adrannau brys GIG Cymru, wrth i’r nifer uchaf erioed o gleifion geisio help brys. Dyma arwydd o ba mor brysur y bu’r gaeaf hwn i’r gwasanaeth iechyd. Bob dydd yn ystod mis Ionawr, mynychodd 2,595 o bobl yr adrannau brys, sef cyfartaledd o 108 o gleifion yr awr. Dyma’r nifer cyfartalog uchaf ar gyfer mis Ionawr ers dechrau cofnodi yn 2006. Mae’r ffigurau yn dangos y mynychodd 80,438 o bobl adrannau brys – sy’n gynnydd o bron 10% o gymharu â mis Ionawr 2015. Roedd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething yn canmol staff y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol am eu gwaith i reoli’r "galw aruthrol" a roddir ar y gwasanaethau. Er hyn, fe wnaeth gydnabod bod nifer y cleifion sy’n aros dros 12 awr mewn adrannau brys yn siomedig. Dywedodd y Gweinidog: "Ar rai diwrnodau ym mis Ionawr, roedd nifer y bobl a fynychodd adrannau brys hyd at 25% yn uwch na’r un adeg y llynedd. Mae’r wybodaeth reoli hefyd yn dangos bod nifer yr ambiwlansys a gyrhaeddodd ysbytai ar rai diwrnodau hyd at 25% yn uwch y mis Ionawr hwn na’r cyfartaledd y llynedd. Er gwaethaf hyn, mae staff ein gwasanaeth iechyd yn parhau i reoli’r cyfnodau o gynnydd sydyn mewn galw ac er bod ein hysbytai’n brysur iawn mae cyfnodau o bwysau ar adegau."

Cronfa gwerth £136m gyda chefnogaeth yr UE i helpu busnesau i dyfu

Lansiodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones gronfa newydd gwerth £136m gyda chefnogaeth yr UE i roi cyllid i fusnesau Cymru er mwyn helpu i ysgogi eu cynhyrchiant a thwf yr economi. Bydd Cronfa Fusnes Cymru, dan reolaeth Cyllid Cymru, yn cefnogi busnesau bach a chanolig (BBaChau) i ehangu’n gynt trwy ddarparu cyllid ar ffurf benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti o £50,000 hyd at £2 filiwn. Bydd y gronfa hefyd yn rhoi cyllid i fusnesau newydd yn ogystal â chyfalaf risg i greu a thyfu cwmnïau sy’n ymchwilio ac yn arloesi, gan gynnwys cwmnïau deillio, mewn sectorau twf allweddol fel gweithgynhyrchu uwch, gwyddorau bywyd ac iechyd. Dywedodd y Prif Weinidog: "Fel Llywodraeth sydd o blaid busnes, rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau newydd a’r rhai sy’n bodoli eisoes i dyfu a ffynnu. Rwy’n falch iawn ein bod yn buddsoddi arian yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru i gefnogi’r nod hon."

Das ist Cymru: Lansio ymgyrch y Flwyddyn Antur yn yr Almaen

Mae ymgyrch Blwyddyn Antur Croeso Cymru wedi cael ei lansio yn yr Almaen. Bydd yr hysbyseb deledu newydd am Gymru’n cael ei dangos mewn sinemâu yn Berlin a Munich. Nod yr hysbyseb yw troi Cymru’n gyrchfan fyd-eang flaenllaw ar gyfer twristiaeth antur ym marchnad yr Almaen fel rhan o Flwyddyn Antur Croeso Cymru 2016. Straplein y gweithgarwch yn yr Almaen yw ‘Das ist Cymru/Dyma Gymru, datganiad balch o bwy ydym a gwahoddiad i’r farchnad ddarganfod Cymru o’r newydd a herio rhagdybiaethau am Gymru. Das ist Cymru hefyd yw teitl cynllunydd gwyliau newydd yn yr Almaen sydd wedi’i deilwra i anghenion y farchnad. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: "Yr Almaen yw un o dair marchnad dramor allweddol Cymru. Yn 2014, denodd Cymru 92,000 o ymwelwyr o’r Almaen a wariodd £34 miliwn yn economi Cymru. Mae’r ymgyrch newydd hon yn rhoi gwahoddiad cryf a hyderus i bobl gael dysgu mwy am y wlad.”

£2m i gefnogi gofalwyr yng Nghymru

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd pecyn ariannu gwerth £2m ar gael dros y ddwy flynedd nesaf i barhau i gefnogi gofalwyr. Amcangyfrifir bod mwy na 370,000 o ofalwyr yng Nghymru. Mae 90,000 o ofalwyr yn gofalu am eu teulu a’u ffrindiau am o leiaf 50 awr yr wythnos. Mae rhwng 70% a 95% o’r gofal sy’n cael ei ddarparu i bobl mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru yn cael ei roi yn wirfoddol gan deulu a ffrindiau. Mae’r £2m ar gyfer 2016-17 a 2017-18 yn adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi’i wneud i gefnogi gofalwyr. Bydd yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth ar draws y sector iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector ac yn adeiladu capasiti i ddatblygu gwaith i wella hawliau gofalwyr ymhellach o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Dywedodd y Gweinidog: "Rwy’n falch iawn o gadarnhau pecyn gwerth £2m i roi arian pontio i amddiffyn ac ehangu’r cynnydd sydd eisoes wedi’i gyflawni ar gyfer gofalwyr gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau’r gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol.”

Ymgyrch yn annog dioddefwyr camdriniaeth rywiol i gael cymorth

Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru, Byw Heb Ofn yn dechrau ar gam newydd i annog pobl sydd wedi dioddef camdriniaeth rywiol i geisio’r cymorth y maent yn ei haeddu. Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar annog oedolion a gafodd eu cam-drin fel plant i ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn. Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews: “Yn ôl ystadegau’r NSPCC, mae dwy ran o dair o’r oedolion a gafodd eu cam-drin pan oeddent yn blant o bosib heb ddweud wrth unrhyw un erioed am eu profiadau.” Os ydych chi wedi cael eich cam-drin, gallwch ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn unrhyw bryd i gael cyngor a chefnogaeth – mae’n rhad ac am ddim, yn gyfrinachol, ac ar gael 24 awr y dydd. Gallwch hefyd fynd i wefan Byw Heb Ofn i gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch a’r cymorth sydd ar gael: 0808 80 10 800, llyw.cymru/bywhebofn

Pwerau newydd i reoli effaith Tai Amlfeddiannaeth

Mae deddfwriaeth newydd a fydd yn rhoi cyfle i awdurdodau cynllunio reoli effaith Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) yn eu hardal wedi dod i rym (25 Chwefror). Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, mai’r nod yw gadael i awdurdodau cynllunio lleol ofyn am gydsyniad cynllunio ar gyfer HMOs newydd ac ystyried yr effaith y gall anheddau o’r fath ei chael ar ardaloedd lleol cyn penderfynu naill ai i gymeradwyo’r caniatâd cynllunio neu ei wrthod. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cyflwyno dosbarth defnyddio newydd (C4) ar gyfer HMOs â hyd at 6 o bobl yn byw ynddyn nhw. Dywedodd y Gweinidog: “Mae HMOs yn gwneud cyfraniad pwysig at y sector rhentu preifat drwy ddiwallu anghenion grwpiau penodol o bobl am dai a rhoi llety i unigolion nad ydynt yn gallu fforddio prynu eiddo neu rentu llety mwy o faint. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn caniatáu i awdurdodau cynllunio gymryd camau i reoli nifer yr HMOs yn eu hardal.”

Hwb i Effeithlonrwydd Ynni

Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, wedi lansio Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni newydd. Bydd yn chwarae rôl fawr mewn sbarduno twf economaidd, mynd i’r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni. Mae’r strategaeth newydd yn pennu cyfeiriad clir ar gyfer y 10 mlynedd nesaf a sut y gallwn helpu pob sector i weithredu. Dywedodd y Gweinidog: "Mae defnyddio ynni’n fwy effeithlon yn cynnig cyfle mawr i sicrhau twf gwyrdd, drwy swyddi a sgiliau newydd a chadwyn gyflenwi sy’n ffynnu. Dyma’r ffordd fwyaf costeffeithiol o wireddu’n hymrwymiadau i leihau allyriadau carbon tra’n gostwng pris ynni i fusnesau a’r sector cyhoeddus. Mae’n delio hefyd yn uniongyrchol â thlodi tanwydd drwy leihau costau gwresogi cartrefi pobl sy’n agored i niwed.”

£450,000 ar gyfer prosiectau i leihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu hanafu

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Edwina Hart, wedi cyhoeddi y bydd dau brosiect sy’n ceisio gwella diogelwch ar y ffyrdd a lleihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu hanafu yn rhannu gwerth hyd at £450,000 o gyllid ymchwil gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cyllid hwn yn eu galluogi i ddatblygu eu gwaith ymhellach. Ymhlith y prosiectau llwyddiannus mae:

• leinin arbenigol ar gyfer helmedau gan Armourgel Ltd. Y nod yw amddiffyn beicwyr modur rhag anafiadau i’r ymennydd sy’n gwaethygu;

• system gan Fusion Processing Ltd ar gyfer hysbysu gyrwyr ynghylch cyffyrdd. Bydd y system yn defnyddio cyfuniad o radar a chamerâu er mwyn tynnu sylw gyrwyr at y ffaith bod beiciwr modur yn agosáu.

Dywedodd y Gweinidog: “Nod y prosiectau hyn yw ystyried dulliau blaengar o ddiogelu beicwyr modur a lleihau nifer y damweiniau sy’n digwydd. Roedd canlyniadau’r ddau gynllun yn y cam asesu dichonoldeb yn gadarnhaol iawn ac rwy’n falch iawn ein bod yn gallu eu cefnogi i ddatblygu eu gwaith ymhellach.”

Ymgyrch newydd i leihau risg dementia

Mae ffigurau newydd Llywodraeth Cymru yn dangos bod 76% o bobl yn poeni am ddatblygu dementia yn hwyrach yn eu bywydau. Hefyd, mae dros hanner (60%) y bobl a holwyd yn meddwl y byddant hwythau’n datblygu dementia os oes rhywun yn eu teulu yn dioddef ohono. Cafodd canfyddiadau arolwg am ddementia eu cyhoeddi wrth i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, lansio ymgyrch newydd i helpu pawb i gymryd camau syml i leihau eu risg o ddatblygu dementia. Mae’r ymgyrch yn galw arnom ni i weithredu nawr, felly GWNA FE:

Gwiria dy iechyd yn gyson

Wyt ti’n cadw at dy bwysau?

Na! i ysmygu

Alcohol o fewn y canllawiau, os o gwbl

Fedri di gerdded mwy bob dydd?

Edrych am hobi newydd

Dywedodd y Gweinidog: “Dydych chi byth yn rhy ifanc i gymryd camau syml i wella eich iechyd corfforol a meddyliol wrth i chi fynd yn hyn, gyda’r gobaith o leihau eich risg o ddementia a chlefydau eraill.”