Bydd Cyngor Cymuned Pont-y-pwl yn dathlu ei 21ain Eisteddfod Rhyng Ysgolion yn 2019. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf ym 1999.
Digwyddiad dau ddiwrnod yw’r Eisteddfod gyda myfyrwyr Ysgolion Cynradd Pont-y-pwl yn cymryd rhan fel unawdwyr ac mewn grwpiau i ganu a llefaru drwy gyfrwng y Gymraeg, canu offerynnau a dawnsio gwerin.
Bydd 8 ysgol gynradd yn cymryd rhan eleni dros y ddau ddiwrnod gyda phobl amlwg yn mynychu ac yn cyflwyno gwobrau i’r cystadleuwyr buddugol. Bydd yr enillwyr yn derbyn talebau a hefyd tlws i gadw ac arddangos yn eu hysgol am flwyddyn.
Noddir y tlysau gan fusnesau a thrigolion lleol, adrannau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Cymuned Pont-y-pwl a’r Arglwydd Murphy o Dorfaen





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.