Cynlluniau newydd ar gyfer gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi fod gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys yn mynd i gael eu gwella yng Nghymru. Bydd oriau gweithredu’r gwasanaethau hyn yn cael eu hymestyn fel rhan o gynlluniau ehangach i’w moderneiddio. Bydd y cynlluniau yn gwella ansawdd y gofal drwy ddarparu gwasanaeth diogel ac amserol a fydd yn diwallu anghenion cleifion unigol ac yn lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans brys (999). O dan y trefniadau newydd, bydd Pwyllgor y Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn comisiynu gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys ar gyfer byrddau iechyd o fis Ebrill 2016. Bydd gwasanaethau gwell yn cael eu darparu hefyd i gleifion sy’n cael triniaeth oncoleg ac arennol erbyn mis Medi 2016.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Mae’r cynlluniau hyn yn dangos newid cyfeiriad o ran comisiynu, cynllunio a darparu’r gwasanaeth. Bydd cleifion a GIG Cymru yn cael mwy o fudd o wasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys.

Meithrin cenedl sy’n wirioneddol egnïol

Mae Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth wedi dweud bod angen i bawb sydd ynghlwm wrth ddylanwadu ar ein hamgylchedd adeiledig ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr. Bydd hynny’n fodd i sicrhau bod Cymru’n dod yn genedl wirioneddol egnïol. Mewn digwyddiad ar Deithio Llesol ar gyfer y sectorau adeiladu a datblygu yng Nghaerdydd, dywedodd y Gweinidog na ddylai’r gwaith o wella’r seilwaith cerdded a beicio’n sylweddol, o reidrwydd, gostio mwy. Dywedodd y Gweinidog: “Diben Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn cerdded a beicio’n fwy aml a hynny drwy wella’n sylweddol y modd rydym yn mynd ati i gynllunio a chyflenwi ein seilwaith cerdded a beicio. Bydd angen i bawb sydd ynghlwm wrth ddylanwadu ar ein hamgylchedd adeiledig ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr o’r cychwyn cyntaf.

Cynllun newydd tair blynedd i wella gwasanaethau iechyd meddwl

Mae Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi fod gwella gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl a phobl hyn â dementia ymysg blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.

Mae’r Gweinidog wedi lansio’r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynllun cyflawni cam dau ar gyfer Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sef strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a llesiant.

Un o’r blaenoriaethau allweddol yw gwella ansawdd bywyd a gofal i bobl sydd â dementia neu sydd â risg o ddementia a’u gofalwyr. Mae’r cynllun hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol, fel anhwylder ar y sbectrwm awtistig ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, yn gallu cael asesiad a thriniaeth amserol sy’n cefnogi’u datblygiad cymdeithasol a phersonol parhaus.

Dywedodd y Gweinidog: “Iechyd meddwl yw un o’n prif flaenoriaethau. Fel llywodraeth, rydyn ni’n buddsoddi mwy nag erioed – dros £600m eleni – yn ein gwasanaethau iechyd meddwl.

Cynigion newydd i gyfyngu ar gontractau dim oriau gofal cymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion newydd i wella ansawdd gofal cymdeithasol drwy gyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau a sicrhau bod cyflogwyr yn talu’r lleiafswm cyflog cenedlaethol i weithwyr gofal cartref. Mae Llywodraeth Cymru’n lansio ymgynghoriad ar gamau gweithredu posibl i wella’r broses o recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref. Mae’r cynigion yn cynnwys: cyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau; gwneud yn siwr bod cyflogwyr yn talu’r lleiafswm cyflog cenedlaethol i weithwyr gofal cartref; ac

atal yr arfer ymysg gweithwyr gofal o fyrhau galwadau’n fwriadol gan nad oes ganddynt ddigon o amser i deithio rhwng galwadau, drwy sicrhau bod darparwyr gofal yn talu eu gweithwyr gofal cartref am yr amser teithio.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford:

“Mae’r ymgynghoriad yn gosod amrywiol fesurau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella ansawdd gofal cartref yng Nghymru drwy ddylanwadu’n gadarnhaol ar recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref.

Y gwaith yn dechrau ar ganolfan therapi pelydr proton gynta’r DU

Gwelwyd cam sylweddol ymlaen yn y gwaith o greu canolfan therapi pelydr proton ar gyfer trin canser, y gyntaf o’i bath yn y DU, wrth i’r gwaith ddechrau’n swyddogol ar y safle. Ymwelodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, â’r safle i nodi dechrau’r gwaith adeiladu. Disgwylir i’r ganolfan, ym Mharc Busnes Celtic Springs yng Nghasnewydd, fod ar agor erbyn 2017.

Cafodd buddsoddiad Proton Partners International – y mae ei bencadlys yng Nghymru – ei ategu gan Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, sef cronfa a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gaiff ei rheoli gan Arthurian Life Sciences. Dywedodd y Gweinidog: “Dyma garreg filltir bwysig mewn buddsoddiad sylweddol gan Proton Partners er mwyn trawsnewid gofal canser o fewn y DU. Mae hefyd yn fuddsoddiad sylweddol yng Nghymru ac rwy’n falch iawn fod ein Cronfa Gwyddorau Bywyd wedi gallu chwarae rhan mor allweddol yn y gwaith o sefydlu’r busnes yng Nghymru. Mae’r Gronfa wedi helpu i sefydlu eu canolfan ragoriaeth ryngwladol gyntaf ac mae canolfan hyfforddiant cysylltiedig ar gyfer y DU yn cael ei sefydlu yng Nghasnewydd.”

£6m i wella sgiliau gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant

Bydd gweithwyr ym maes y blynyddoedd cynnar, chwarae, a gofal plant yn y Gogledd, y Gorllewin, a’r De yn cael cymorth i ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau cydnabyddedig, diolch i raglen newydd gwerth £6.3m gan Lywodraeth Cymru. Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, a’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, fod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i sicrhau £4.2m gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer ei rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant. Bydd y cyllid hwn gan yr Undeb Ewropeaidd yn denu £2.1m o arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru. Caiff ei ddefnyddio i wella sgiliau gweithwyr ym maes y blynyddoedd cynnar, chwarae, a gofal plant yng Nghonwy, Sir Fôn, Gwynedd, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr, Caerffili, Blaenau Gwent a Thor-faen.

Dywedodd y Gweinidog Addysg: “Dw i wrth fy modd ein bod bellach wedi sicrhau arian gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer ein rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant. Bydd hynny’n golygu y bydd gweithwyr chwarae a gofal plant yn y Gogledd, y Gorllewin a’r Cymoedd yn cael y cyfle i ennill sgiliau a chymwysterau newydd er mwyn gwneud eu gwaith yn fwy effeithiol.”

Cyfraith newydd i ddiwygio arolygu a rheoleiddio gofal cymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod cyfraith newydd a fydd yn newid y ffordd mae gwasanaethau gofal a chymorth cymdeithasol Cymru yn cael eu rheoleiddio a’u harolygu yn mynd i gael ei rhoi ar waith erbyn mis Ebrill 2019. Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, sydd wedi cael Cydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi y Frenhines, yn rhoi strwythur newydd i atebolrwydd, fel bod modd dwyn perchenogion gwasanaethau i gyfrif am fethiannau mewn gofal. Mae’n rhoi’r pwer hefyd i Weinidogion Cymru gael gwared nid yn unig ar wasanaethau gwael ond darparwyr gwael. Felly, os na fydd gwasanaethau yn taro’r nod, bydd pobl yn gweld bod rheoleiddwyr yn cymryd camau i fynd i’r afael â hyn.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yw’r ail ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol y mae’r llywodraeth hon wedi’i gyflwyno ers i’r Cynulliad Cenedlaethol gael pwerau deddfu newydd yn 2011. Drwy ein rhaglen ddeddfwriaethol, mae yna bwrpas i’r ffordd rydyn ni’n defnyddio ein pwerau – i ddarparu gofal cymdeithasol gwell i bobl Cymru.”

Y Gweinidog yn datgelu cynlluniau ar gyfer safonau tai cymdeithasol

Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Tai, wedi amlinellu cynlluniau i sicrhau bod tai cymdeithasol yng Nghymru yn ddiogel ac yn addas i’w diben. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno safonau ansawdd gorfodol a fydd yn disodli’r safonau anstatudol cyfredol ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Chymdeithasau Tai Lleol. Byddai’r safonau yn berthnasol i’r 222,000 o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru a thai cymdeithasol newydd a gaiff eu hadeiladu â chymorth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae tai cymdeithasol o ansawdd yn helpu i weddnewid bywydau miloedd o’r bobl hynny yng Nghymru sydd fwyaf agored i niwed, gan sicrhau bod ganddyn nhw gartref diogel a chynnes.

Cyfraith arloesol yn ymwneud â Rhentu Cartrefi yn cael Cydsyniad Brenhinol

Mae deddfwriaeth arloesol i wella bywydau miliwn o bobl yng Nghymru sy’n rhentu eu cartrefi wedi cael cydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi’r Frenhines. Bydd y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn haws ac yn symlach rhentu cartref, drwy ddisodli amryw o ddarnau cymhleth o ddeddfwriaeth gydag un fframwaith cyfreithiol clir.

Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog: "Rwy’n falch iawn o hanes llwyddiannus y Llywodraeth hon o ddefnyddio atebion ’a luniwyd yng Nghymru’ i wneud Cymru’n lle gwell i fyw. Bydd y Bil hwn yn cyflwyno eglurder a thegwch angenrheidiol i’r sector rhentu, a hefyd yn helpu i amddiffyn rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas."

Cyfraddau goroesi canser yn parhau i wella

Mae mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru, ond mae mwy o bobl nag erioed yn cael triniaeth ac mae’r cyfraddau goroesi’n uwch nag erioed, yn ôl adroddiad newydd ynglyn â gofal canser. Mae’r pedwerydd adroddiad blynyddol ar ganser ar gyfer Cymru gyfan yn nodi’r cynnydd a wnaethpwyd yn erbyn cynllun Llywodraeth Cymru Law yn Llaw at Iechyd - Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser dros y 12 mis diwethaf. Mae hefyd yn nodi meysydd i’w gwella ar gyfer y dyfodol. Mae’n dangos bod nifer y bobl sy’n cael diagnosis o ganser yn cynyddu. Yn 2013-14, cafodd 19,000 o bobl ddiagnosis o ganser, sef cynnydd o 11.5% o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl. Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod 28% yn fwy o bobl yn 2014-15 wedi cael eu gweld, wedi cael diagnosis ac wedi dechrau cael triniaeth o fewn y targed amser aros canser, sef 62 diwrnod, o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae GIG Cymru wedi gwneud cynnydd rhagorol unwaith eto o ran gwneud diagnosis o ganser a thrin canser. Ond ni allwn fodloni ar hynny oherwydd yng Nghymru, yn 2016 yn unig, bydd bron i 20,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser a bydd tua 8,000 yn marw. Edrychaf ymlaen at weld rhagor o gynnydd yn cael ei wneud yn y frwydr yn erbyn canser."

Lansio ymgynghoriad ar ehangu Cynllun y Bathodyn Glas

Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, wedi lansio ymgynghoriad ar ehangu y cymhwyster ar gyfer y Bathodyn Glas i gynnwys amodau dros dro, ac i symleiddio’r broses asesu. Daw y newidiadau arfaethedig i Gynllun y Bathodyn Glas, sy’n cynnig consesiynau parcio yng Nghymru i bobl sydd ag anableddau, o adolygiad eang gan y Grwp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i ystyried gwelliannau i’r cynllun hwn.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn chwarae rhan hollbwysig drwy wella mynediad i waith a gwasanaethau i bobl sydd ag anableddau. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwrando ar y pryderon a fynegwyd gyda’r system bresennol drwy wneud newidiadau pwysig i sicrhau bod mwy yn gymwys ac i sicrhau cysondeb a thegwch yn y dull o’i darparu.”

Dechrau da i’r system cofnodi defaid

Mae Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, wedi croesawu EIDCymru - system electronig newydd ar gyfer cofnodi symudiadau defaid a aeth yn fyw ar 18 Ionawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiad sylweddol o £2.2 miliwn yn system EIDCymru er mwyn sicrhau bod gan ddiwydiant amaethyddol Cymru system gofnodi ac olrhain symudiadau defaid sy’n fodern ac yn gadarn. Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Rydym wedi ystyried buddiannau’r diwydiant defaid wrth ddatblygu EIDCymru. Mae’n dangos ein hymrwymiad i foderneiddio arferion a gweithdrefnau ffermio. Mae hefyd yn ddull arall o’n gwarchod rhag clefydau heintus a’r costau sylweddol sy’n gysylltiedig â hynny fel y clwy traed a’r genau a’n trawodd nôl ym 2001.