The Monmouthshire and District National Eisteddfod Maes will look very different to the past few years as a brand new pavilion replaces the festival’s iconic Pink Pavilion next year.

The audience experience in the ‘Evolution’ pavilion, provided by Neptunus, will be totally different to sitting in the big pink tent, and Eisteddfod Chief Executive, Elfed Roberts, said, “This is the beginning of a new chapter after ten years of the Pink Pavilion.

“Like everyone else, we’ll miss the Pink Pavilion. It was an iconic building which grasped everyone’s imagination, but it’s time to move on, and we are very excited at the prospect of having a new pavilion on the Maes in Abergavenny.

“The new structure is called ‘Evolution’ and is a far-reaching development for us, offering a much better experience for the audience, competitors and performers on stage.

“The resources will be excellent, with potential for us to use the space in a new and different way, so we can be ambitious and creative, and we are all looking forward to the next few years.

“The Pink Pavilion was a striking building and gave us a unique promotional opportunity for a decade, but it was also very frustrating. The structural poles obscured the view from a large number of seats, and external noise was also a problem during competitions. The new building is a much sturdier structure and will suit our needs far better.

“However, we realise that it’s not a great big striking pink tent, and it looks very different. And this is another challenge for us as a team, to make the new structure look as attractive as possible. Over the past few years we have managed to transform the Maes, and the new pavilion is our next project.

“We will be working a wide range of ideas over the next few months and looking for support to ensure that the new pavilion takes its place on the attractive Eisteddfod Maes in Abergavenny from 29 July – 6 August next year.

“Preparations for the Eisteddfod are going very well, and I would like to thank everyone working locally raising awareness and funds. There is definitely a warm welcome awaiting us on Castle Meadows next year.”

For more information on the Eisteddfod go to www.eisteddfod.wales.

PAFILIWN NEWYDD AR FAES EISTEDDFOD 2016

Bydd Maes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau’n edrych yn dra gwahanol i’r blynyddoedd diwethaf, wrth i bafiliwn newydd sbon gymryd lle y Pafiliwn Pinc y flwyddyn nesaf.

Bydd y profiad a geir yn y pafiliwn ‘Evolution’, a ddarperir gan gwmni Neptunus, yn gwbl wahanol i’r hyn a gafwyd yn y babell fawr binc dros y blynyddoedd diwethaf, a dywed Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, “Mae hwn yn gychwyn ar gyfnod newydd ar ôl deng mlynedd o gynnal ein cystadlaethau a’n seremonïau yn y Pafiliwn Pinc.

“Fe fyddwn ni, fel pawb arall yn gweld eisiau’r Pafiliwn Pinc. Roedd yn adeilad eiconig a gydiodd yn nychymyg pawb, ond mae’n bryd i ni symud ymlaen, a rydym ni’n edrych ymlaen yn arw i gael pafiliwn newydd ar y Maes yn Y Fenni.

“’Evolution’ yw enw’r strwythur newydd ac mae’i ddyfodiad yn esblygiad pendant i ni fel Eisteddfod, gan gynnig profiad llawer gwell i’r gynulleidfa a phawb sy’n perfformio ar y llwyfan.

“Bydd yr adnoddau’n ardderchog, gyda photensial i ni ddefnyddio’r gofod mewn ffordd wahanol a newydd, gan ein galluogi ni i fod yn uchelgeisiol a chreadigol, a rydym i gyd yn edrych ymlaen at y cyfleoedd a ddaw dros y blynyddoedd nesaf.

“Atyniad mwyaf y Pafiliwn Pinc oedd ei edrychiad, a rhoddodd ddelwedd unigryw i’r Eisteddfod am ddegawd gyfan, ond roedd o’n strwythur rhwystredig iawn hefyd. Roeddem ni’n colli nifer fawr o seddi da oherwydd bod angen nifer o bolion i’w ddal i fyny, ac roedd swn yn gallu achosi problemau i ni hefyd yn ystod cystadlaethau. Mae’r adeilad newydd yn fwy cadarn ac yn ymateb i’n gofynion ni fel trefnwyr a’r gynulleidfa.

“Wrth gwrs, nid pabell drawiadol binc mohono, ac ydi, mae edrychiad allanol y strwythur newydd yn wahanol iawn. Ac mae hyn yn her arall i ni fel tîm, i greu delwedd ddeniadol a gafaelgar ar gyfer ein Pafiliwn newydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i drawsnewid y Maes, a’r pafiliwn newydd yw ein prosiect nesaf.

“Byddwn yn gweithio ar syniadau dros y misoedd nesaf ac yn chwilio am gefnogaeth i’n helpu ni i sicrhau bod y pafiliwn newydd yn cymryd ei le ar Faes deniadol yr Eisteddfod yn Y Fenni o 29 Gorffennaf – 6 Awst y flwyddyn nesaf.

“Mae’r paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod yn mynd rhagddynt yn arbennig o dda, a hoffwn ddiolch i bawb sydd yn gweithio’n lleol i godi ymwybyddiaeth ac arian. Mae croeso mawr yn ein disgwyl ni oll ar Ddolydd y Castell y flwyddyn nesaf.”

Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod ewch i www.eisteddfod.cymru.