Tonight, both the Monmouthshire and District National Eisteddfod’s Crown and Chair were presented to the festival’s Executive Committee, at a special ceremony in Monmouth.

This year’s Crown is presented by Cymreigyddion Y Fenni (the Abergavenny Welsh Society), and the Crown has been created and designed by local artist, Deborah Edwards. The financial prize has been donated by Alun Griffiths (Contractors) Ltd.

The Crown is presented for a collection of poems not in full cynghanedd (strict metre) of up to 250 lines, titled ‘Llwybrau’ (Paths). The adjudicators are Siân Northey, Menna Elfyn, and Einir Jones.

The inspiration for the design of this year’s National Eisteddfod crown came from the artist, Deborah Edwards’ love of living in Monmouthshire, celebrating the county’s beautiful landscape, wealth of architectural landmarks and cultural heritage.

The crown is made up of a series of windows, the outline shape of which was taken from the Nave’s West Window at Tintern Abbey. Each window frames a different view of Monmouthshire, which include the castles of Abergavenny, Raglan, Caldicot, Usk and Chepstow, Abergavenny Market Hall, the Severn Bridge, Monnow Bridge and Llancayo Windmill.

Lady Llanover, a patron of Welsh culture locally, is represented in the design, as are the peaks of the Skirrid, Sugarloaf and Blorenge and many other elements important in the history and landscape of Monmouthshire.

Each window shaped section has two layers; the first layer is solid sheet with details pierced out by hand using a piercing saw. The second layer is made up of line drawings formed in square section silver wire. The textile for the crown was woven by Sioni Rhys Handweavers in their Pandy studio, using a traditional local weave.

The Chair will also be presented to the Executive Committee on Tuesday evening. This year’s task is to compose a sequence of poems in full cynghanedd of up to 250 lines titled ‘Ffiniau’ (Borders / Boundaries). The adjudicators are Tudur Dylan Jones, Cathryn Charnell-White and Meirion MacIntyre Huws.

This year marks fifty years since Dic Jones won the Chair at the Aberafan Eisteddfod for his ode, ‘Y Cynhaeaf’ (The Harvest), and to note this important anniversary, the Chair is given by the family in the poet’s memory. The financial prize is donated in memory of Islwyn Jones, Wenvoe, Cardiff.

Emyr Garnon James, Head of Design and Technology at Ysgol Uwchradd Aberteifi, who used to visit Yr Hendre, Dic Jones’ family home, was chosen by the family to design and create this year’s Chair.

Emyr says, “I used to call at Yr Hendre, and the Aberafan Eisteddfod Chair was in the corner of the room. I never imagined that I would be chosen to create an Eisteddfod Chair in memory of Dic himself. It has been an honour and a pleasure to create this Chair, and I thank the family for the opportunity.

“One thing was certain from the start when speaking to the family, it had to be a ‘no-fuss’ Chair, the wood being the main attraction. I returned to Yr Hendre to see the 1966 Chair, which was a very modern Chair in its day, a simple Chair with beautiful wood. I chose to work with black walnut, and created a simple design with straight lines, a design which would, hopefully, have been appreciated by Dic himself.

“Working with the black walnut has been a special experience, and I have learnt how to cast bronze into the wood to create the inscription and the Nod Cyfrin (Gorsedd of the Bards symbol). I may well use some of these techniques in future projects with pupils at school, after exploring different ways of working when creating the Chair.”

Speaking as he accepted both the Crown and the Chair on behalf of the local committee, Chair, Frank Olding, said, "It is a great pleasure to be here tonight to accept the Crown and the Chair on behalf of this year’s Eisteddfod. The ceremonies are two of the week’s highlights, and we sincerely hope that we will have two worthy winners for both the Crown and Chair in a few weeks’ time. Our thanks to Deborah Edwards for her beautiful work on the Crown and to Cymreigyddion Y Fenni and Alun Griffiths (Contractors) Ltd for their generosity.

“We also thank Emyr Garnon James for his work on the Chair, and the families of Dic Jones and Islwyn Jones for their donations. I thank you on behalf of the Committee, the Eisteddfod and the whole of Monmouthshire.”

The Crowning ceremony takes place on Monday 1 August at 16.30, and Chairing ceremony on Friday 5 August at 16:30. Anyone wishing to attend the ceremonies should ensure they have a reserved seat ticket as the Pavilion will be very full.

Tickets can be purchased beforehand by ringing 0845 4090 800 or by going to www.eisteddfod.wales, or they can be purchased on the day at the main entrance.

Heno cyflwynwyd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn Nhrefynwy.

Rhoddir y Goron eleni gan Gymreigyddion Y Fenni, a chomisiynwyd yr artist lleol, Deborah Edwards i ymgymryd â’r dasg o gynllunio a chreu y Goron. Cyflwynir y wobr ariannol gan Alun Griffiths (Contractors) Cyf.

Cyflwynir y Goron am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, hyd at 250 o linellau ar y pwnc ‘Llwybrau’. Y beirniaid yw Siân Northey, Menna Elfyn, ac Einir Jones.

Ardal Sir Fynwy sydd wedi ysbrydoli’r cynllun ar gyfer y Goron eleni, gyda’r artist, Deborah Edwards yn awyddus i ddathlu’r tirlun hardd, y tirnodau pensaernïol hynod a threftadaeth ddiwylliannol y sir.

Mae’r Goron yn cynnwys nifer o ffenestri, gyda’r amlinelliad wedi’i gymryd o un o ffenestri Abaty Tyndyrn. Ceir golygfa wahanol o’r sir ym mhob ffenest, ac mae’r rhain yn cynnwys cestyll Y Fenni, Rhaglan, Cil-y-Coed a Chas-gwent, yn ogystal â neuadd farchnad enwog Y Fenni, Pont Hafren a melin wynt Llancaio.

Mae Arglwyddes Llanofer, un a fu mor weithgar dros yr iaith a’n diwylliant, wedi’i chynrychioli yn y Goron hefyd, ynghyd â bryniau a mynyddoedd Ysgyryd Fawr, Blorens a Phen-y-fâl, a nifer o elfennau eraill sy’n rhan bwysig o fywyd a hanes bro’r Eisteddfod.

Mae gan bob ‘ffenest’ ddwy haen, y gyntaf yn ddalen solet, gyda’r manylion wedi’u rhwyllo â llaw, gan ddefnyddio llif rhwyllo. Mae’r ail haen wedi’i chreu o linluniau wedi’u ffurfio mewn darn sgwâr o weiren arian. Gwehyddwyd y gwaith tecstilau gan wehyddwyr llaw Sioni Rhys yn eu stiwdio ym Mhandy, gan ddefnyddio gwehyddiad lleol traddodiadol.

Yn ogystal â’r Goron, bydd y Gadair hefyd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith nos Fawrth. Eleni cyflwynir y Gadair am ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau dan y teitl ‘Ffiniau’. Y beirniaid yw Tudur Dylan Jones, Cathryn Charnell-White a Meirion MacIntyre Huws.

Eleni, mae’n hanner canrif ers i Dic Jones ennill y Gadair yn Eisteddfod Aberafan am ei awdl ‘Y Cynhaeaf’, ac i nodi’r achlysur, cyflwynir y Gadair eleni gan ei deulu er cof am y bardd. Rhoddir y wobr ariannol er cof am Islwyn Jones, Gwenfô, Caerdydd.

Un a fu’n ymweld yn aml â’r Hendre, cartref Dic Jones, oedd Emyr Garnon James, a’r crefftwr hwn, sydd hefyd yn bennaeth Adran Dylunio a Thechnoleg Ysgol Uwchradd Aberteifi, a ddewiswyd gan y teulu i gynllunio a chreu Cadair Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.

Meddai Emyr, “Roeddwn i’n arfer galw yn Yr Hendre a gweld Cadair Aberafan yn y gornel, a feddylies i erioed y byddwn i’n cael fy newis i greu cadair ar gyfer yr Eisteddfod, a honno er cof am Dic ei hun. Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn bleser creu’r Gadair hon, a diolch i’r teulu am y cyfle.

“Wrth gychwyn ar y gwaith ac wrth feddwl am Dic a siarad gyda’r teulu, roedd un peth yn bendant - cadair ddi-ffws fyddai Cadair Eisteddfod 2016 - a’r pren fyddai’r prif atyniad. Dychwelais i’r Hendre i weld Cadair 1966. Roedd hi’n gadair gyfoes iawn ar y pryd a hithau hefyd yn ddi-ffws, gyda’r pren yn drawiadol a hardd. Dewisais weithio gyda phren Ffrengig du, a chreu cynllun syml gyda llinellau syth, cynllun y byddai Dic ei hun wedi’i werthfawrogi, gobeithio.

“Mae gweithio gyda’r pren wedi bod yn brofiad arbennig, ac rwyf wedi dysgu sut i gastio efydd i mewn i’r pren er mwyn creu’r ysgrifen a’r Nod Cyfrin, profiad newydd i mi, ac efallai y bydd ambell ddisgybl yn defnyddio’r broses hon mewn prosiectau dros y blynyddoedd nesaf.

Wrth dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Lleol, Frank Olding, “Mae’n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran y Brifwyl. Mae’r seremonïau’n ddwy o uchafbwyntiau’r wythnos, ac rydym yn mawr obeithio y bydd beirdd haeddiannol yn derbyn y Goron a’r Gadair yma yn Sir Fynwy ymhen rhai wythnosau. Diolch i Deborah Edwards am ei gwaith cywrain ar y Goron, i Gymreigyddion Y Fenni am ei chyflwyno ac i Alun Griffiths (Contractors) Cyf am y wobr ariannol.

“Yr un yw’r diolch i Emyr Garnon James am ei waith ar y Gadair, ac i deulu Dic Jones am ei chyflwyno, ac i deulu Islwyn Jones am y wobr ariannol. Diolch o waelod calon ar ran y Pwyllgor, yr Eisteddfod, a Sir Fynwy i gyd.”

Cynhelir seremoni’r Coroni ddydd Llun 1 Awst am 16.30, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener 5 Awst am 16.30. Dylai unrhyw un sy’n mynychu’r seremonïau sicrhau bod ganddynt docyn sedd gadw gan y bydd y Pafiliwn yn orlawn ar gyfer y ddwy seremoni Gellir prynu tocynnau ymlaen llawn drwy fynd i’r wefan, www.eisteddfod.cymru, neu drwy ffonio’r Llinell Docynnau, 0845 4090 800. Gellir hefyd brynu tocynnau wrth gyrraedd y Maes ar y diwrnod.