£3 miliwn i helpu i roi deddf gofal cymdeithasol newydd Cymru ar waith
Cyhoeddodd Mark Drakeford, y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, y bydd pecyn cyllid a chymorth gwerth £3 miliwn ar gael gan Lywodraeth Cymru i helpu awdurdodau lleol i roi diwygiadau sylweddol i system gofal cymdeithasol Cymru ar waith pan ddaw deddf arloesol i rym ym mis Ebrill. Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, gan hybu annibyniaeth pobl i roi llais cryfach a mwy o reolaeth iddynt ar y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen. Bydd hefyd yn annog ffocws o’r newydd ar atal problemau ac ar ymyrraeth gynnar, gan helpu pobl i aros yn annibynnol am gyfnod hirach. Dywedodd y Gweinidog: “Bydd y pecyn cymorth o £3 miliwn rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu llywodraeth leol a phartneriaid eraill i roi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru (2014) ar waith pan ddaw’r Ddeddf i rym ar 6 Ebrill.
Busnesau yn cael eu hannog i wneud cais am gymorth i hybu allforion a thwf
Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar fusnesau sy’n datblygu yng Nghymru sydd â’r posibilrwydd o fod yn gwmnïau mawr i wneud cais am gynllun newydd sy’n cynnig cymorth wedi’i deilwra i helpu eu busnes i ddatblygu, rhoi hwb i allforion a chreu swyddi newydd. Mae’r rhaglen cyflymu twf busnesau ar agor i fusnesau sy’n gallu rhoi amlinelliad o strategaeth uchelgeisiol ar gyfer twf gyda’r nod o greu 10 o swyddi a gweld trosiant o dros £2 filiwn yn y dair mlynedd gyntaf. Bydd ymgeiswyr yn cael cymorth hefyd i nodi cyfleoedd yn y farchnad ryngwladol, gyda’r nod o gynhyrchu 30% o’u refeniw drwy allforio. Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: “Fel llywodraeth sydd o blaid busnesau, rydym wedi ymrwymo i gefnogi entrepreneuriaid a chwmnïau o Gymru sydd â chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae’r rhaglen cyflymu twf busnesau yn gyfle i fusnesau sydd â’r posibilrwydd o ddatblygu i dderbyn cymorth a hyfforddiant wedi’i deilwra i hybu eu allforion a’u trosiant.” Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 7 Chwefror, ac fe wahoddir ymgeiswyr i wneud cais drwy wefan ICE ar http://welshice.org/.
Dim awdurdodau lleol yng Nghymru o dan fesurau arbennig mwyach.
Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis wedi croesawu’r newyddion nad oes angen i’r pedwar awdurdod yng Nghymru fod o dan fesurau arbennig bellach, ond anogodd nhw i barhau i wneud cynnydd. Merthyr Tudful yw’r pedwerydd awdurdod lleol i’w ddileu o’r categori hwn yn ystod y deufis diwethaf. Mae’r awdurdod yn dilyn camre Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Thorfaen ac mae’n golygu nad oes yr un awdurdod lleol yng Nghymru o dan fesurau arbennig mwyach. Dywedodd y Gweinidog: " Rwy’n croesawu’r ffaith bod Estyn o’r farn bod y pedwar awdurdod yng Nghymru a oedd o dan fesurau arbennig wedi gwneud digon o gynnydd i gael eu tynnu o’r categori hwnnw. Mae hyn yn dod â fy ymyrraeth i yn yr ardaloedd hyn i ben. Fodd bynnag, rwy’n dymuno i hyn fod yn gychwyn proses o wella parhaus yn yr awdurdodau hynny.”
Mwy o bobl yn goroesi strôc – adroddiad newydd
Mae gwasanaethau strôc yng Nghymru yn parhau i wella wrth i adroddiad newydd ddangos bod dros 1,000 yn llai o farwolaethau o strôc y flwyddyn o gymharu â degawd yn ôl (dydd Gwener 29 Ionawr). Mae’r trydydd adroddiad blynyddol ar gyfer Cymru gyfan yn nodi’r cynnydd y mae’r gwasanaeth iechyd wedi’i wneud i rwystro a thrin strôc yn erbyn cynllun cyflawni ar gyfer strôc Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn tynnu sylw at feysydd i’w gwella. Mae’r adroddiad yn dangos bod mwy o bobl yn goroesi a bod llai o bobl bellach yn marw o strôc. Yn 2005, bu farw 3,158 o bobl o strôc yng Nghymru. Yn 2014, y nifer oedd 2,317. Roedd hyn 26%, neu 841 o farwolaethau yn llai. Yn seiliedig ar gyfartaledd tair blynedd, gwelwyd nifer y marwolaethau yng Nghymru yn lleihau dros 1,000 y flwyddyn rhwng 2003-05 a 2012-14. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut y mae gwasanaethau strôc yng Nghymru’n parhau i wella gyda mwy o bobl yn goroesi a llai o bobl yn marw o strôc.”
Menter newydd yn dod â phrofion ar y galon yn nes at gartrefi pobl
Fel rhan o fenter newydd sy’n cael ei chyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, bydd cleifion lle amheuir bod ganddyn nhw broblemau ar y galon yn cael gwasanaethau cardioleg yn nes at eu cartrefi. Bydd hyn yn lleihau amserau aros a’r pwysau ar ysbytai. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y cynllun cardioleg cymunedol peilot, ble y bydd meddygon teulu sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol yn delio â phobl sydd â phroblemau ar y galon. Bydd hyn yn galluogi cardiolegwyr ymgynghorol i ddelio â chleifion sy’n dioddef o gyflyrau mwy cymhleth. Dywedodd y Dirprwy Weinidog: "Mae’r prosiect peilot yn Abertawe wedi bod yn un llwyddiannus iawn. Mae wedi arwain at fynediad cyflymach at y gwasanaethau mwyaf priodol ac ymyrraeth i gleifion yn dilyn asesiad. Mae hefyd wedi lleihau’r amserau aros ar gyfer apwyntiadau i gleifion allanol cardioleg o ganlyniad i leihad yn nifer yr atgyfeiriadau a’r galw.”
Holi barn ar fasnachfraint newydd i reilffyrdd
Mae aelodau’r cyhoedd yn cael rhoi eu barn am yr hyn yr hoffent ei weld yn y fasnachfraint reilffordd nesaf ar gyfer Cymru. Lansiodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart ymgynghoriad cyhoeddus i lywio’r fanyleb ar gyfer masnachfraint reilffordd nesaf Cymru a’r Gororau, fydd yn cynnwys gwasanaethau rheilffordd Metro yn ne-ddwyrain Cymru. Mae disgwyl y bydd y cyfrifoldeb dros ddyfarnu Masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau yn trosgwlyddo i Lywodraeth Cymru ar ddechrau 2017, sef pan fydd yn amser ystyried y fasnachfraint nesaf sydd i ddechrau yn 2018. Mae’r ymgynghoriad yn holi barn ar y blaenoriaethau ar gyfer gwelliannau i’r fasnachraint mewn nifer o feysydd, gan gynnwys:
gwasanaethau a chapasiti
perfformiad
prisiau a thocynnau
cerbydau
Meddai’r Gweinidog: “Am y tro cyntaf, bydd y penderfyniadau am ein gwasanaethau rheilffordd yn cael eu gwneud yng Nghymru i sicrhau bod gennym y gwasanaethau effeithiol, fforddiadwy o safon uchel yr ydym eu hangen. Rwy’n disgwyl manteision gwirioneddol i deithwyr, gan gynnwys amseroedd teithio cyflymach, gwasanaethau o safon uwch, mwy dibynadwy a mwy o le ar drenau.
£2.5 miliwn i fynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo o ysbytai Cymru
Mae Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi mesurau newydd i fynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal yn y GIG yng Nghymru. Bydd cyfanswm o £2.5 miliwn yn ariannu cyfres o fesurau i leihau nifer y bobl, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn bobl hyn, nad ydynt yn gallu gadael yr ysbyty oherwydd rhesymau gofal cymdeithasol. Bydd gwneud hyn yn rhyddhau gwelyau mewn ysbytai i gleifion sydd eu hangen. Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 435 o bobl wedi wynebu oedi wrth drosglwyddo o ofal ym mis Rhagfyr 2015; y trydydd mis yn olynol lle mae nifer yr achosion o oedi wedi lleihau. Dywedodd y Gweinidog: “Yng Nghymru, rydyn ni wedi buddsoddi yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan fod pobl eiddil a hyn yn dibynnu arnyn nhw i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth. Mae’r buddsoddiad hwn wedi arwain at leihad graddol yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, sy’n gwbl groes i’r duedd a welir mewn ardaloedd eraill yn y DU.”





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.